Tracio Cerbydau - Telemateg Fflyd - Diogelwch Peiriannau - Arbed Tanwydd
Mae Plant i yn darparu olrhain cerbydau, telemateg fflyd ac yn cynnig diogelwch ar gyfer peiriannau fflyd, asedau, trelars, pobl, HGV's, faniau, cartrefi modur - unrhyw beth mewn gwirionedd.
Rydym yn gwneud defnydd o'r holl dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys CANBus, RFID, GPS, GPRS ac OBD.
Byddwn yn falch o ddylunio system sy'n addas i'ch anghenion ac yn gwarantu na fydd ein prisiau isel yn cael eu hadlewyrchu yn ein gwasanaeth proffesiynol. Rydym yn darparu cefnogaeth barhaus heb ei ail! Mae Plant I Ltd, gyda’u hamrywiaeth o atebion tracio cerbydau telematig, a rheoli cerbydau yn eich galluogi chi i gyflawni effeithlonrwydd gweithredol a chynyddu cynhyrchiant. Drwy wneud y defnydd gorau posibl o’ch cerbydau, bydd systemau tracio cerbydau yn talu am ei hun yn ddigon buan ac yn y pen draw yn arbed arian i chi.
Mae gennym systemau diogelwch/tracio ar y We am 60c y diwrnod!
Daw 98% o’n masnach drwy gymeradwyaethau, felly fe allwch dderbyn ein gair yn hytrach na chredu ynddo’n unig. Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni eich cyfeirio chi at gwmni mewn sector tebyg i’ch un chi.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddeall eich anghenion.

